Playing via Spotify Playing via YouTube
Skip to YouTube video

Loading player…

Scrobble from Spotify?

Connect your Spotify account to your Last.fm account and scrobble everything you listen to, from any Spotify app on any device or platform.

Connect to Spotify

Dismiss

A new version of Last.fm is available, to keep everything running smoothly, please reload the site.

Addewidion - Lyrics

Gorweddai'r baban yn ei grud ar garthen feddal wen
A'i fam yn gwylio drosodd a'i dwylo am ei phen
Mae cadair wag yn siglo lle bu ei dad yn foi
Dibwrpas ydyw addo mwy na'r hyn sydd gennyt roi

Mae dyled fawr y fyddin yn araf yn ei thal
A bywyd Taid yn ddameg a'i hachos yn sarhad
Mae 'r swn a'r ffrae yn wythdeg dau yn atsain i'r hen foi
Dibwrpas ydyw addo mwy na'r hyn sydd gennyt roi

Mae tywod anial nawdeg un yn llifo o tu draw
A gwaed ei gorff yn ddolchen goch fel crachen yn y baw
Darparu ffydd a theyrnged a breuddwyd wedi troi
Dibwrpas ydyw addo mwy na'r hyn sydd gennyt roi

Pa beth yw Duw ymhlith y lliw a bywyd heb ei werth?
Pa beth yw dyn ar ei ben-glin pan nad oes ganddo'r nerth?
Pa beth yw brawd a thylwyth tlawd a thyddyn heb ei do?
A chartre' diffaith unig yn y fro?

Mae Mam yn gorwedd yn ei bedd, briallu uwch ei phen
A oedfa hwyr yr eglwys oer ar fin dod i ben
Mae'r gloch yn ddistaw am y tro a'r drysau wedi cloi
Dibwrpas ydyw addo mwy na'r hyn sydd gennyt roi

Similar Tracks

Similar Artists

Don't want to see ads? Subscribe now

API Calls